Luc 11:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.

24. “Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ond heb ei gael. Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’

25. Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn.

26. Yna y mae'n mynd ac yn cymryd ato saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn mynd i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf.”

Luc 11