Luc 1:62-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

62. Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.

63. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb.

64. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.

65. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;

Luc 1