Luc 1:50-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaethi'r rhai sydd yn ei ofni ef.

51. Gwnaeth rymuster â'i fraich,gwasgarodd y rhai balch eu calon;

52. tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,a dyrchafodd y rhai distadl;

53. llwythodd y newynog â rhoddion,ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.

54. Cynorthwyodd ef Israel ei was,gan ddwyn i'w gof ei drugaredd—

55. fel y llefarodd wrth ein hynafiaid—ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.”

Luc 1