Lefiticus 6:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. ‘Dyma ddeddf yr aberth dros bechod: Y mae'r aberth dros bechod i'w ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; bydd yn gwbl sanctaidd.

26. Yr offeiriad a fydd yn ei gyflwyno'n aberth dros bechod fydd yn ei fwyta, a hynny mewn lle sanctaidd yng nghyntedd pabell y cyfarfod.

27. Bydd unrhyw beth sy'n cyffwrdd â'r cig yn sanctaidd, ac os collir peth o'i waed ar wisg, rhaid ei golchi mewn lle sanctaidd.

28. Rhaid torri'r llestr pridd y coginir y cig ynddo; ond os mewn llestr pres y coginir ef, rhaid ei sgwrio a'i olchi â dŵr.

Lefiticus 6