Josua 21:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Yr oedd gan y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd.

34. Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn ôl eu teuluoedd, Jocneam, Carta,

35. Dimna a Nahalal, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

36. O lwyth Reuben cafwyd Beser, Jahas,

37. Cedemoth a Meffaath, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

Josua 21