Jeremeia 7:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth.

8. “ ‘Yr ydych yn ymddiried mewn geiriau celwyddog, heb fod ynddynt elw.

9. Onid ydych yn lladrata, yn lladd, yn godinebu, yn tyngu llw celwyddog, yn arogldarthu i Baal, yn dilyn duwiau eraill nad ydych yn eu hadnabod?

10. Eto yr ydych yn dod ac yn sefyll o'm blaen yn y tŷ hwn, y galwyd fy enw i arno, ac yn dweud, “Fe'n gwaredwyd er mwyn cyflawni'r holl ffieidd-dra hyn.”

11. Ai lloches lladron yn eich golwg yw'r tŷ hwn, y gelwir fy enw i arno? Ond yr wyf finnau hefyd wedi gweld hyn, medd yr ARGLWYDD.

12. “ ‘Ewch yn awr i'm cysegr yn Seilo, lle y gwneuthum i'm henw drigo ar y dechrau, ac edrychwch ar yr hyn a wneuthum yno oherwydd drygioni fy mhobl Israel.

Jeremeia 7