Jeremeia 51:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Peidiodd cedyrn Babilon ag ymladd;llechant yn eu hamddiffynfeydd;pallodd eu nerth, aethant fel gwragedd;llosgwyd eu tai, a thorrwyd barrau'r pyrth.

31. Rhed negesydd i gyfarfod negesydd,a chennad i gyfarfod cennad,i fynegi i frenin Babilonfod ei ddinas wedi ei goresgyn o'i chwr.

32. Enillwyd y rhydau,llosgwyd y corsydd â thân,a daeth braw ar wŷr y gwarchodlu.

33. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:‘Y mae merch Babilon fel llawr dyrnu adeg ei fathru;ar fyrder daw amser ei chynhaeaf.’ ”

34. “Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwydgan Nebuchadnesar brenin Babilon;bwriodd fi heibio fel llestr gwag;fel draig fe'm llyncodd;llanwodd ei fol â'm rhannau danteithiol,a'm chwydu allan.”

Jeremeia 51