24. “Talaf yn ôl i Fabilon ac i holl breswylwyr Caldea yn eich golwg chwi am yr holl ddrwg a wnaethant i Seion,” medd yr ARGLWYDD.
25. “Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr,” medd yr ARGLWYDD,“dinistrydd yr holl ddaear.Estynnaf fy llaw yn dy erbyn,a'th dreiglo i lawr o'r creigiau,a'th wneud yn fynydd llosgedig.
26. Ni cheir ohonot faen congl na charreg sylfaen,ond byddi'n anialwch parhaol,” medd yr ARGLWYDD.
27. “Codwch faner yn y tir,canwch utgorn ymysg y cenhedloedd,neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn;galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd,Ararat, Minni ac Ascenas.Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn,dygwch ymlaen feirch, mor niferus â'r locustiaid heidiog.
28. Neilltuwch genhedloedd yn ei herbyn,brenhinoedd Media a'i llywodraethwyr a'i swyddogion,a holl wledydd eu hymerodraeth.