Jeremeia 50:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Clyw! Rhyfel yn y wlad!Dinistr mawr!

23. Gwêl fel y drylliwyd gordd yr holl ddaear,ac y torrwyd hi'n dipiau.Gwêl fel yr aeth Babilon yn syndodymhlith y cenhedloedd.

24. Gosodais fagl i ti, Babilon,a daliwyd di heb yn wybod iti;fe'th gafwyd ac fe'th ddaliwydam iti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.

25. Agorodd yr ARGLWYDD ei ystordy,a dwyn allan arfau ei ddigofaint;oherwydd gwaith ARGLWYDD Dduw y Lluoedd yw hynyng ngwlad y Caldeaid.

26. Dewch yn ei herbyn o'r cwr eithaf,ac agorwch ei hysguboriau hi;gwnewch bentwr ohoni fel pentwr ŷd,a'i difetha'n llwyr, heb weddill iddi.

Jeremeia 50