Jeremeia 49:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi;goddiweddodd dychryn hi,a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.

25. Mor wrthodedig yw dinas moliant,caer llawenydd!

26. Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

27. “Mi gyneuaf dân ym mur Damascus,ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad.”

28. Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar;anrheithiwch bobl y dwyrain.

29. Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau,llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd;dygir eu camelod oddi arnynt,a bloeddir wrthynt, ‘Dychryn ar bob llaw!’

Jeremeia 49