Jeremeia 42:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Gwnaf drugaredd â chwi, a bydd ef yn trugarhau wrthych ac yn eich adfer i'ch gwlad eich hun.

13. Ond os dywedwch, “Nid arhoswn yn y wlad hon”, gan wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,

14. a dweud, “Nage, ond fe awn i'r Aifft; ni welwn ryfel yno na chlywed sain utgorn na bod mewn newyn am fara, ac yno y trigwn”,

15. yna, clywch air yr ARGLWYDD, chwi weddill Jwda. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Os mynnwch droi eich wyneb tua'r Aifft, a mynd yno i drigo,

16. yna bydd y cleddyf a ofnwch yma yn eich goddiweddyd yno yng ngwlad yr Aifft, a'r newyn sy'n peri pryder ichwi yn eich dilyn i'r Aifft. Ac yno y byddwch farw.

Jeremeia 42