Jeremeia 38:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywodd Seffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pasur, Jucal fab Selemeia, a Pasur fab Malcheia y geiriau yr oedd Jeremeia'n eu llefaru wrth yr holl bobl, gan ddweud,

2. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pwy bynnag fydd yn aros yn y ddinas hon, fe fydd farw trwy gleddyf, newyn a haint; ond pwy bynnag fydd yn mynd allan at y Caldeaid, bydd hwnnw fyw; bydd yn arbed ei fywyd ac yn byw.’

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yn ddiau rhoir y ddinas hon yng ngafael llu brenin Babilon, a bydd ef yn ei hennill.’ ”

Jeremeia 38