Jeremeia 36:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dywedasant hwythau wrtho, “Eistedd yma, a darllen hi inni.” Darllenodd Baruch,

16. a phan glywsant y geiriau, troesant at ei gilydd mewn braw, a dweud wrth Baruch, “Rhaid inni fynegi hyn i gyd i'r brenin.”

17. Gofynasant i Baruch, “Eglura inni yn awr sut y bu iti ysgrifennu'r holl eiriau hyn a ddywedodd.”

18. Atebodd Baruch, “Ef ei hun oedd yn llefaru wrthyf yr holl eiriau hyn, a minnau'n eu hysgrifennu ag inc ar y sgrôl.”

19. Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, “Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch â gadael i neb wybod lle'r ydych.”

20. Yna aethant at y brenin i'r llys, ar ôl iddynt gadw'r sgrôl yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin.

Jeremeia 36