Jeremeia 33:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd eto yn y lle hwn sydd wedi ei ddifrodi, heb ddyn nac anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, fannau gorffwys i'r bugeiliaid a chorlannau i'r praidd.

13. Yn ninasoedd y mynydd-dir a dinasoedd y Seffela a dinasoedd y Negef, yn nhiriogaeth Benjamin ac o amgylch Jerwsalem ac yn ninasoedd Jwda, bydd eto braidd yn symud trwy ddwylo'r sawl fydd yn rhifo,’ medd yr ARGLWYDD.

14. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cyflawnaf y gair daionus a addewais i dŷ Israel ac i dŷ Jwda.

15. Yn y dyddiau hynny, yn yr adeg honno, paraf i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac fe wna ef farn a chyfiawnder yn y wlad.

16. Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: ‘Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.’

Jeremeia 33