Jeremeia 3:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yn y dyddiau hynny fe â tŷ Jwda at dŷ Israel, a dônt ynghyd o dir y gogledd i'r tir y perais i'ch hynafiaid ei etifeddu.”

19. “Dywedais, ‘Sut y gosodaf di ymhlith y plant,i roi i ti dir dymunol,ac etifeddiaeth orau'r cenhedloedd?’A dywedais, ‘Fe'm gelwi, “Fy nhad”,ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl.’

20. Yn ddiau, fel y bydd gwraig yn anffyddlon i'w chymar,felly, dŷ Israel, y buoch yn anffyddlon i mi,” medd yr ARGLWYDD.

21. Clyw! Ar y moelydd clywir wylofain ac ymbil tŷ Israel,am iddynt wyro eu ffordd ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw.

22. “Dychwelwch, blant anffyddlon; iachâf eich ysbryd anffyddlon.”“Wele, fe ddown atat, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD ein Duw.

Jeremeia 3