Jeremeia 22:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn,i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.

18. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:“Ni alarant amdano, a dweud, ‘O fy mrawd! O fy nghâr!’Ni alarant amdano, a dweud, ‘O Arglwydd! O Fawrhydi!’

19. Fel claddu asyn y cleddir ef—ei lusgo a'i daflu y tu hwnt i byrth Jerwsalem.”

20. Dring i Lebanon, a gwaedda;yn Basan cod dy lef;bloeddia o Abarim,“Dinistriwyd pawb sy'n dy garu.”

21. Lleferais wrthyt yn dy wynfyd;dywedaist, “Ni wrandawaf.”Dyma dy ffordd o'th ieuenctid,ac ni wrandewaist arnaf.

Jeremeia 22