Jeremeia 22:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano;wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith,oherwydd ni ddychwel mwyach,na gweld gwlad ei enedigaeth.

11. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum, mab Joseia brenin Jwda, a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad: “Aeth allan o'r lle hwn, ac ni ddychwel yma eto;

12. bydd farw yn y lle y caethgludwyd ef iddo, ac ni wêl y wlad hon eto.”

13. Gwae'r sawl a adeilada'i dŷ heb gyfiawnder,a'i lofftydd heb farn,gan fynnu gwasanaeth ei gymydog yn rhad,heb roi iddo ddim am ei waith.

14. Gwae'r sawl a ddywed, “Adeiladaf i mi fy hun dŷ eangac iddo lofftydd helaeth.”Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd,a'i liwio â fermiliwn.

Jeremeia 22