Jeremeia 21:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. “Wrth dŷ brenin Jwda dywed,‘Clyw air yr ARGLWYDD.

12. Tŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Barnwch yn uniawn yn y bore,achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr,rhag i'm llid fynd allan yn dân,a llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd eich gweithredoedd drwg.’

13. “Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffrynwrth graig y gwastadedd,” medd yr ARGLWYDD.“Fe ddywedwch chwi, ‘Pwy ddaw i waered yn ein herbyn?Pwy ddaw i mewn i'n gwâl?’

Jeremeia 21