Jeremeia 13:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i mi.

6. Ar ôl dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno.”

7. Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim.

Jeremeia 13