Jeremeia 10:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt,mawr yw dy enw mewn nerth.

7. Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd?Hyn sy'n gweddu i ti.Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd,ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.

8. Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd,wedi eu dysgu gan eilunod o bren!

9. Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas,gwaith y saer a dwylo'r eurych;a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor—gwaith crefftwyr ydyw i gyd.

10. Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw;ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol;y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid,ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.

Jeremeia 10