Ioan 7:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Meddai Iesu wrthynt, “Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o'r herwydd.

22. Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad—er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid—ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth.

23. Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iacháu holl gorff rhywun ar y Saboth?

24. Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg, ond yn ôl safonau barn gyfiawn.”

Ioan 7