Ioan 7:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Er hynny, nid oedd neb yn siarad yn agored amdano, rhag ofn yr Iddewon.

14. Pan oedd yr ŵyl eisoes ar ei hanner, aeth Iesu i fyny i'r deml a dechrau dysgu.

15. Yr oedd yr Iddewon yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut y mae gan hwn y fath ddysg, ac yntau heb gael hyfforddiant?”

Ioan 7