Ioan 18:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cymerodd Jwdas felly fintai o filwyr, a swyddogion oddi wrth y prif offeiriaid a'r Phariseaid, ac aeth yno gyda llusernau a ffaglau ac arfau.

4. Gan fod Iesu'n gwybod pob peth oedd ar fin digwydd iddo, aeth allan atynt a gofyn, “Pwy yr ydych yn ei geisio?”

5. Atebasant ef, “Iesu o Nasareth.” “Myfi yw,” meddai yntau wrthynt. Ac yr oedd Jwdas, ei fradychwr, yn sefyll yno gyda hwy.

6. Pan ddywedodd Iesu wrthynt, “Myfi yw”, ciliasant yn ôl a syrthio i'r llawr.

Ioan 18