Ioan 14:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Credwch fi pan ddywedaf fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi; neu ynteu credwch ar sail y gweithredoedd eu hunain.

12. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad.

13. Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.

14. Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf.

15. “Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i.

Ioan 14