Ioan 1:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo.

8. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.

9. Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.

10. Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono.

Ioan 1