Hosea 9:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Beth a wnewch ar ddydd yr ŵyl sefydlog,ar ddydd uchel ŵyl yr ARGLWYDD?

6. Canys wele, ffoant rhag dinistr;bydd yr Aifft yn eu casglu,a Memffis yn eu claddu;bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian,a drain fydd yn eu pebyll.

7. Daeth dyddiau cosbi,dyddiau i dalu'r pwyth,a darostyngir Israel.“Ffŵl yw'r proffwyd,gwallgof yw gŵr yr ysbryd.”O achos dy ddrygioni mawrbydd dy elyniaeth yn fawr.

8. Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdda gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.

Hosea 9