Hebreaid 11:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer pethau i ddod.

21. Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth farw, bob un o feibion Joseff, ac addoli â'i bwys ar ei ffon.

22. Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn.

23. Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni, oherwydd eu bod yn ei weld yn blentyn tlws. Nid oedd arnynt ofn gorchymyn y brenin.

24. Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu i fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo,

Hebreaid 11