Genesis 49:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw,a'u dicter am ei fod mor greulon;rhannaf hwy yn Jacoba'u gwasgaru yn Israel.

8. “Jwda, fe'th ganmolir gan dy frodyr;bydd dy law ar war dy elynion,a meibion dy dad yn ymgrymu iti.

9. Jwda, cenau llew ydwyt,yn codi oddi ar yr ysglyfaeth, fy mab;yn plygu a chrymu fel llew,ac fel llewes; pwy a'i cyfyd?

Genesis 49