Genesis 48:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Felly bendithiodd hwy y dydd hwnnw a dweud:“Ynoch chwi bydd Israel yn bendithio ac yn dweud,‘Gwnaed Duw di fel Effraim a Manasse.’ ”Felly gosododd Effraim o flaen Manasse.

21. Yna dywedodd Israel wrth Joseff, “Yr wyf yn marw, ond bydd Duw gyda chwi, ac fe'ch dychwel i dir eich hynafiaid.

22. A rhoddaf i ti yn hytrach nag i'th frodyr gefnen o dir a gymerais oddi ar yr Amoriaid â'm cleddyf ac â'm bwa.”

Genesis 48