Genesis 47:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Dywedasant hefyd wrth Pharo, “Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad, gan nad oes borfa i anifeiliaid dy weision, oherwydd y mae'r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Yn awr, caniatâ i'th weision gael aros yng ngwlad Gosen.”

5. Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Daeth dy dad a'th frodyr atat,

6. ac y mae gwlad yr Aifft o'th flaen. Rho gartref i'th dad a'th frodyr yn y man gorau, a gad iddynt fyw yng ngwlad Gosen. Os gwyddost am wŷr medrus yn eu mysg, gosod hwy yn benbugeiliaid ar fy anifeiliaid i.”

7. Daeth Joseff â'i dad i'w gyflwyno gerbron Pharo, a bendithiodd Jacob Pharo.

8. Gofynnodd Pharo i Jacob, “Faint yw dy oed?”

Genesis 47