Genesis 44:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Holodd f'arglwydd ei weision, ‘A oes gennych dad, neu frawd?’

20. Ac atebasom ein harglwydd, ‘Y mae gennym dad sy'n hen ŵr, a brawd bach, plentyn ei henaint. Bu farw ei frawd, ac ef yn unig sy'n aros o blant ei fam, ac y mae ei dad yn ei garu.’

21. Yna dywedaist wrth dy weision, ‘Dewch ag ef i lawr ataf imi gael ei weld.’

22. Dywedasom wrth f'arglwydd, ‘Ni all y bachgen adael ei dad, oherwydd os gwna, bydd ei dad farw.’

23. Dywedaist tithau wrth dy weision, ‘Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.’

24. Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd.

Genesis 44