Genesis 4:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech.

19. Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail.

20. Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail.

21. Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib.

22. Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain.

23. A dywedodd Lamech wrth ei wragedd:“Ada a Sila, clywch fy llais;chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd;lleddais ŵr am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.

24. Os dielir am Cain seithwaith,yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.”

Genesis 4