Genesis 37:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Pan aeth Reuben yn ôl at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad

30. a mynd at ei frodyr a dweud, “Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?”

31. Cymerasant wisg Joseff, a lladd gafr, a throchi'r wisg yn y gwaed.

32. Yna aethant â'r wisg laes yn ôl at eu tad, a dweud, “Daethom o hyd i hon; edrych di ai gwisg dy fab ydyw.”

33. Fe'i hadnabu a dywedodd, “Gwisg fy mab yw hi; anifail gwyllt sydd wedi ei ddifa. Yn wir, y mae Joseff wedi ei larpio.”

Genesis 37