Genesis 32:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.”

27. “Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.”

28. Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.”

29. A gofynnodd Jacob iddo, “Dywed imi dy enw.” Ond dywedodd yntau, “Pam yr wyt yn gofyn fy enw?” A bendithiodd ef yno.

30. Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, “Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd.”

Genesis 32