Genesis 31:43-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Atebodd Laban a dweud wrth Jacob, “Fy merched i yw'r merched, a'm plant i yw'r plant, a'm praidd i yw'r praidd, ac y mae'r cwbl a weli yn eiddo i mi. Ond beth a wnaf heddiw ynghylch fy merched hyn, a'r plant a anwyd iddynt?

44. Tyrd, gwnawn gyfamod, ti a minnau; a bydd yn dystiolaeth rhyngom.”

45. Felly cymerodd Jacob garreg a'i gosod i fyny'n golofn.

46. Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig,” a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd.

47. Enwodd Laban hi Jegar-sahadwtha, ond galwodd Jacob hi Galeed.

Genesis 31