Genesis 27:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Gwnaeth yntau luniaeth blasus, a mynd ag ef i'w dad, a dweud wrtho, “Cod, fy nhad, a bwyta o helfa dy fab, a bendithia fi.”

32. Gofynnodd ei dad Isaac iddo, “Pwy wyt ti?” Atebodd yntau, “Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi.”

33. Yna cyffrôdd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, “Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef.”

Genesis 27