Genesis 25:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll.

28. Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.

29. Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio.

30. A dywedodd Esau wrth Jacob, “Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio.” Dyna pam y galwyd ef Edom.

31. Dywedodd Jacob, “Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint.”

32. A dywedodd Esau, “Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?”

Genesis 25