Galarnad 3:46-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Y mae'n holl elynionyn gweiddi'n groch yn ein herbyn.

47. Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl,hefyd mewn difrod a dinistr.

48. Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵro achos dinistr merch fy mhobl;

49. y mae'n diferu'n ddi-baid,heb gael gorffwys,

50. hyd onid edrycha'r ARGLWYDDa gweld o'r nefoedd.

51. Y mae fy llygad yn flinder imio achos dinistr holl ferched fy ninas.

Galarnad 3