Galarnad 3:40-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd,a dychwelyd at yr ARGLWYDD,

41. a dyrchafu'n calonnau a'n dwyloat Dduw yn y nefoedd.

42. Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela,ac nid wyt ti wedi maddau.

43. Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid,yn lladd yn ddiarbed.

44. Ymguddiaist mewn cwmwlrhag i'n gweddi ddod atat.

Galarnad 3