Galarnad 2:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Suddodd ei phyrth i'r ddaear;torrodd a maluriodd ef ei barrau.Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd,ac nid oes cyfraith mwyach;ni chaiff ei phroffwydiweledigaeth gan yr ARGLWYDD.

10. Y mae henuriaid merch Seionyn eistedd yn fud ar y ddaear,wedi taflu llwch ar eu pennaua gwisgo sachliain;y mae merched ifainc Jerwsalemwedi crymu eu pennau i'r llawr.

11. Dallwyd fy llygaid gan ddagrau;y mae f'ymysgaroedd mewn poen.Yr wyf yn tywallt fy nghalon allano achos dinistr merch fy mhobl,ac am fod plant a babanod yn llewyguyn strydoedd y ddinas.

12. Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau,“Ple cawn ni rawn a gwin?”—wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedigyn strydoedd y ddinas,ac wrth iddynt ymladd am eu bywydym mynwes eu mamau.

Galarnad 2