Esra 5:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. A dyma'r adroddiad ysgrifenedig a anfonwyd: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!

8. Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tŷ'r Duw mawr yn cael ei adeiladu â cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon.

9. Yna gofynasom i'r henuriaid, ‘Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?’

Esra 5