Eseia 5:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.

18. Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,a phechod megis â rhaffau men,

19. y rhai sy'n dweud, “Brysied,prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”

20. Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.

21. Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain,ac yn gall yn eu tyb eu hunain.

Eseia 5