Eseia 26:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaithy sawl sydd â'i feddylfryd arnat,am ei fod yn ymddiried ynot.

4. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd,canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw.

5. Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr ucheldera'r ddinas ddyrchafedig;fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad â'r llawr,a'i bwrw i'r llwch;

6. fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus,a than sang y rhai tlawd.

7. Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn;gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn;

Eseia 26