Eseia 1:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. o'r corun i'r sawdl nid oes un man yn iach,dim ond archoll a chlais a dolur crawnllydheb eu gwasgu na'u rhwymo na'u hesmwytho ag olew.

7. Y mae eich gwlad yn anrhaith, eich dinasoedd yn ulw,a dieithriaid yn ysu eich tir yn eich gŵydd;y mae'n ddiffaith fel Sodom ar ôl ei dinistrio.

8. Gadawyd Seionfel caban mewn gwinllan,fel cwt mewn gardd cucumerau,fel dinas dan warchae.

Eseia 1