Eseciel 17:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

12. “Dywed wrth y tylwyth gwrthryfelgar hwn, ‘Oni wyddoch beth a olyga hyn?’ Dywed, ‘Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd ei brenin a'i thywysogion, a mynd â hwy gydag ef i Fabilon.

13. Yna cymerodd un o'r teulu brenhinol, a gwneud cytundeb ag ef a'i osod dan lw. Aeth ag arweinwyr y wlad ymaith,

14. er mwyn darostwng y deyrnas, rhag iddi godi drachefn; ac ni allai sefyll ond trwy gadw cytundeb ag ef.

15. Ond gwrthryfelodd y brenin yn ei erbyn trwy anfon negeswyr i'r Aifft i geisio meirch a byddin fawr. A lwydda? A arbedir y sawl sy'n gwneud fel hyn? A all dorri'r cytundeb a chael ei arbed?

Eseciel 17