7. Onid gweld gweledigaeth dwyllodrus a llefaru dewiniaeth gelwyddog yr oeddech wrth ddweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, a minnau heb lefaru?
8. “Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am ichwi lefaru'n dwyllodrus a chael gweledigaethau celwyddog, yr wyf fi yn eich erbyn, medd yr Arglwydd DDUW.
9. Bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sy'n cael gweledigaethau twyllodrus ac yn llefaru dewiniaeth gelwyddog; ni fyddant yn perthyn i gyngor fy mhobl nac wedi eu rhestru ar gofrestr tŷ Israel, ac ni fyddant yn dod i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.
10. “Am iddynt arwain fy mhobl ar gyfeiliorn a dweud, ‘Heddwch’, er nad oedd heddwch, y maent yn codi wal simsan ac yn ei dwbio â gwyngalch.
11. Dywed wrth y rhai sy'n ei gwyngalchu y bydd yn cwympo; daw glaw yn llifeiriant, paraf i'r cenllysg ddisgyn, a bydd gwyntoedd stormus yn rhwygo.
12. Pan fydd y mur yn cwympo, oni ofynnir i chwi, ‘Ymhle mae'r gwyngalch a roesoch?’?