Eseciel 11:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yr ydych yn ofni cleddyf, ond cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd DDUW.

9. Fe'ch gyrraf allan ohoni a'ch rhoi yn nwylo estroniaid, a gwnaf farn â chwi.

10. Fe syrthiwch drwy'r cleddyf, ac fe'ch barnaf ar derfynau Israel; yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

11. Nid y ddinas hon fydd y crochan i chwi, ac nid chwi fydd y cig o'i fewn; ond ar derfynau Israel y barnaf chwi.

12. Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD; ni fuoch yn dilyn fy neddfau nac yn ufuddhau i'm barnau, ond yn gwneud yn ôl barnau'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch.’ ”

Eseciel 11