Ecclesiasticus 6:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Cadw draw oddi wrth dy elynion,a gochel rhag dy gyfeillion.

14. Y mae cyfaill ffyddlon yn gysgod diogel;a'r sawl a gafodd un, fe gafodd drysor.

15. Nid oes dim y gellir ei gyfnewid am gyfaill ffyddlon,ac ni ellir pwyso ei werth ef.

16. Swyn i estyn bywyd yw cyfaill ffyddlon,a'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd sy'n cael hyd iddo.

17. Y mae'r hwn sy'n ofni'r Arglwydd yn cadw ei gyfeillgarwch yn gywir,oherwydd y mae'n ymwneud â'i gymydog fel ag ef ei hun.

18. Fy mab, o'th ieuenctid casgla addysg,ac fe gei ddoethineb hyd at henoed.

Ecclesiasticus 6