Ecclesiasticus 51:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin.Deuthum innau'n agos i farwolaeth,a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.

7. Yr oeddent yn f'amgylchu ar bob tu, ac nid oedd neb i'm helpu;yr oeddwn yn chwilio am gymorth gan eraill, ond nid oedd neb ar gael.

8. Yna cofiais am dy drugaredd di, Arglwydd,ac am dy weithredoedd o'r dechrau cyntaf:dy fod yn gwaredu'r rhai sy'n dal i ddisgwyl wrthyt,ac yn eu hachub o law eu gelynion.

Ecclesiasticus 51