Ecclesiasticus 49:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Rhagorol hefyd yw coffadwriaeth Nehemeia,a gododd i ni y muriau a syrthiasai,ac atgyweirio'r pyrth a'r barrauac ailadeiladu ein tai.

14. Ni chrewyd neb ar y ddaear i'w gymharu ag Enoch,oherwydd cymerwyd ef i fyny oddi ar y ddaear.

15. Ni anwyd chwaith neb tebyg i Joseff,llywodraethwr ei frodyr a chadernid ei bobl;y mae ei esgyrn ef wedi eu cadw'n ddiogel.

16. Cafodd Sem a Seth fri ymhlith y bobl,ond goruwch pob peth byw yn y greadigaeth y mae Adda.

Ecclesiasticus 49